Llongyfarchiadau ar eich dyweddïad,

rydych bellach yn barod i drefnu eich diwrnod arbennig!

Dewiswch Barc Gwledig Pen-bre sy'n unigryw, yn gyfleus ac yn rhyfeddol o dawel.
Mewn lleoliad heb ei ail ar arfordir gorllewin Cymru, rydym yn darparu lle trawiadol er mwyn ichi ddathlu gwledd eich priodas, a hynny yng nghanol golygfeydd syfrdanol o Draeth a Pharc Gwledig Pen-bre

Beth bynnag yw eich cynlluniau ar gyfer eich diwrnod mawr, dewch i Barc Gwledig Pen-bre er mwyn cael diwrnod hynod o arbennig.
Rydym yn cynnig llond gwlad o leoliadau eithriadol - o fannau dan do traddodiadol i'r awyr agored a hynny yng nghanol man diarffordd yn y coetiroedd. Gallwn ddarparu ar gyfer digwyddiadau o bob math, o achlysuron cartrefol gyda chriw bach o deulu a ffrindiau i bartïon mwy ar thema coedwig.

Mae priodasau coetir yn dod yn fwyfwy poblogaidd a dyma fath o briodas a fydd yn sicr o fod yn hudol ac yn unigryw.

Beth am dreiddio i'r coed a chael priodas wirioneddol naturiol? Gallwn ddarparu cydlynydd i oruchwylio'r diwrnod ei hun yn ogystal â'r cyfnod sy'n arwain at eich diwrnod arbennig.

Byddwn yn cyfarfod â chi ymhell cyn y digwyddiad i drafod amserau, cyfleusterau a chynnig unrhyw gymorth i greu eich pecyn unigryw. Byddwn hefyd yn sicrhau bod eich diwrnod yn hwylus a'ch bod yn gysurus. Bydd apêl naturiol y coetir yn syfrdanu gwesteion ac yn cyfrannu at ddiwrnod priodas cofiadwy.

Bendithiad rhwng y Coed


Mae yna rywbeth gwirioneddol hudolus am ganopi coediog a chynnal gwledd briodas yn llythrennol o dan y sêr. Gall y briodferch a'r priodfab ymdreiddio i'w personoliaethau creadigol a hynod a chanolbwyntio ar y manylion. Roeddem yn awyddus i greu le y mae modd ei drawsnewid bob wythnos er mwyn cynnal priodasau cwbl unigryw. P'un a ydych chi'n dewis pabell fawr neu bebyll tipi neu fan agored yn unig, mae gennym ni le sy'n addas i bawb.

Lleoliad priodas unigryw a hynod o ramantus yn y coedtir

Gwasanaeth priodas yn Yr Orsaf

Mharc Gwledig Pen-bre yw Yr Orsaf lle gallwch chi ddweud 'Gwnaf' o flaen eich holl westeion.
Yn addas ar gyfer grŵp bach. Cynfas gwag er mwyn ichi ei addurno yn ôl eich steil a'ch chwaeth eich hun

Llogi cae â phabell fawr

Mae yna rywbeth gwirioneddol hudolus am naws awyr agored ar gyfer eich diwrnod arbennig.
Gadewch i'ch dychymyg fynd ar ras er mwyn gwneud y lleoliad yn lle perffaith. Rhyfeddwch eich gwesteion gyda'ch addurn a'ch steil unigryw. Gall y briodferch a'r priodfab ymdreiddio i'w personoliaethau creadigol a hynod a chanolbwyntio ar y manylion. P'un a ydych chi'n dewis pabell fawr neu bebyll tipi neu ddim ond lle agored, mae gennym le sy'n addas i bawb. I gael diwrnod gwell byth, beth am ichi a'ch gwesteion dreulio'r noson mewn pabell gloch.

Priodas ar y Traeth

Nid oes angen i chi fynd dramor i gael priodas berffaith ar y traeth.
Mae gan Draeth Cefn Sidan ddarn 8 milltir o hyd o dywod euraidd, dyma leoliad delfrydol ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Arlwyo

Os ydych yn chwilio am naws draddodiadol, bwydlen fwy gwladaidd, bwyd stryd neu de prynhawn traddodiadol, gallwn ddarparu ar eich cyfer.

Mae gennym dîm o Gogyddion profiadol a all helpu i addasu eich bwydlen a chynnal diwrnodau blasu cyn y diwrnod mawr.

Does dim byd yn rhy fawr neu'n rhy fach i ni!

Lluniau o'ch Diwrnod Arbennig

Mae gan Draeth a Pharc Gwledig Pen-bre lawer o lefydd i dynnu lluniau gwych o'ch priodas.
Os ydych chi wrth eich bodd â natur a chyda'r math hwn o leoliad, cewch eich synnu ar yr ochr orau o'r harddwch a fydd yn y lluniau priodas.
Dyma ardal sydd â llawer o wahanol leoedd i ddal naturioldeb eich diwrnod arbennig p'un ai yw yng nghanol y coetiroedd neu ar draeth Cefn Sidan. Mae'r dewisiadau'n ddiddiwedd

Gallwn weithio gyda chi i drefnu'r dathliad perffaith sy'n addas i'ch gofynion.

Cysylltwch â'n tîm priodas i drafod eich gofynion i wneud eich diwrnod yn unigryw

Ffon: 01554 742435 neu ebost gwybodaethpenbre@sirgar.gov.uk